Cartref gwyliau eang pum ystafell wely gyda thwb poeth, gardd a lle tân. Gwych ar gyfer teithiau cerdded grŵp ger cestyll, cyrsiau golff a Bannau Brycheiniog.
Mae Tŷ Afon Jay yn cynnwys pum ystafell wely, Wi-Fi am ddim, cegin llawn offer gyda pheiriant golchi llestri, ac ardal fyw glyd gyda lle tân. Y tu allan, gall gwesteion fwynhau twb poeth, cyfleusterau barbeciw, a gardd breifat.
Mae wedi’i leoli dim ond 17 milltir o Theatr y Grand Abertawe ac yn agos at atyniadau lleol fel Castell Dinefwr a Chastell Carreg Cennen. Lleoliad cyfforddus a chyfleus ar gyfer crwydro Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.
Yn gaer Normanaidd amlwg yng nghanol Caerfyrddin, mae’r safle hanesyddol hwn yn gwahodd ymwelwyr i archwilio ei adfeilion a darganfod rôl bwysig y castell yn hanes Cymru trwy arddangosfeydd deniadol.
Darganfod mwyYn adfail dramatig ar ben bryn sy’n edrych dros aber Afon Tywi, mae Castell Llansteffan yn cynnig golygfeydd godidog a chyfle i archwilio canrifoedd o hanes canoloesol Cymru mewn lleoliad arfordirol ysblennydd.
Darganfod mwyAr un adeg yn gartref i fardd enwocaf Cymru, mae’r Boathouse yn edrych dros Aber Afon Taf ac yn cynnig golwg fanwl i ymwelwyr ar fywyd, gwaith, a’r dirwedd a ysbrydolodd Dylan Thomas.
Darganfod mwyLlwybr golygfaol 13 milltir o hyd sy,n dilyn arfordir deheuol Sir Gaerfyrddin, yn cynnig golygfeydd godidog o Aber Llwchwr a Phenrhyn Gŵyr. Mae’n ddelfrydol ar gyfer cerdded, beicio a gwylio bywyd gwyllt.
Darganfod mwyHyb cymunedol bywiog gyda chaffi, oriel gelf, arddangosfa dreftadaeth a gwybodaeth i dwristiaid. Mae’n lle perffaith i ddechrau archwilio’r Mynydd Du a Bannau Brycheiniog.
Darganfod mwyCamwch yn ôl mewn amser gyda thaith trên stêm treftadaeth ar hyd Cwm Gwili golygfaol, gan gynnig golygfeydd hyfryd, digwyddiadau sy’n addas i’r teulu, a blas o deithio ar drên clasurol yng nghefn gwlad Cymru.
Darganfod mwy